Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Ionawr 2021
Amser:
09.03 -
12.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11044
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Andrew RT Davies AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Alan Brace, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch caffael a chyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) yn ystod y pandemig COVID-19.
3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y trefniadau olynol ar gyfer y cynlluniau cyflawni ar gyfer cyflyrau iechyd difrifol.
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol.
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.4 Llythyr at Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 9 Rhagfyr 2020.
3.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.5 Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 9 Rhagfyr 2020.
3.5 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a rhoddodd arweiniad ar faterion yr ymdrinnir â hwy yn ei adroddiad.
6 Blaenraglen waith
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd ar ei flaenoriaethau busnes ar gyfer gweddill tymor y gwanwyn.